Home
Llythyr O Gymru
- Details
- Written by: Steve Morris
- Category: Readings In Welsh
- Hits: 1878
Mae Steve Morris wedi dysgu ar sawl Cwrs Cymraeg Cymdeithas Madog dros y blynyddoedd. Athro brofiadol yn Ne Cymru, mae o'n dysgu Cymraeg yn y coleg yn Abertawe. Dyma argraffiadau Steve ar Gwrs Cymraeg Y Mynnyd Glas, Poultney, Vermont. 1996.
Llythyr O Gymru
Dyma'r tro cyntaf i fi fod yn yr Unol Daleithiau yn fy mywyd! A dyna sioc oedd cyrraedd Efrog Newydd yng ngwres mawr mis Gorffennaf ar ôl hedfan yn syth o Gaerdydd. Sut byddai'r pythefnos nesaf yn America? Pa fath o bobl fyddai ar y cwrs? Oeddwn i wedi paratoi digon o waith iddyn nhw? Wrth lwc, roedd dau o'r tiwtoriaid eraill wedi dysgu ar y Cwrs Cymraeg o'r blaen (Heini ac Emyr yn Atlanta) ac roedd digon o gyngor a help i gael gyda nhw. Truelion ni rai diwrnodau yn yr Afal Mawr cyn teithio ar Amtrak i dalaith hyfryd Vermont a chael ein croesawu gan Mary Ellen Palmer, Meredith Roberts ac eraill yn Green Mountain College, Poultney.
Roedd Vermont mor wahanol i Efrog Newydd ond roedd yn glir i fi yn syth pam oedd cymaint o Gymry wedi synud i'r ardal yn y ganrif ddiwethaf: y llechi, wrth gwrs, ond y wlad brydferth hefyd - y mynyddoedd, y llynnoedd a phopeth sy'n atgoffa rhywun o harddwch Gogledd Cymru. Roeddwn yn teimlo'n gartrefol iawn ymysg y capeli, y baneri a'r enwau Cymraeg yno. Cafwyd croeso twymgalon gan aelodau Cymdeithas Madog ar ôl cyrraedd ond yr un mor wresog oedd croeso trigolion Poultney a'r cylch a'u balchder yn eu gwreiddiau Cymreig.
Bues i'n ffodus iawn - fel tiwtor - gyda'r dosbarth hefyd. 16 o ddysgwyr brwd iawn heb fawr o Gymraeg o gwbl oedd yn gweithio'n galed iawn, iawn trwy'r wythnos. Roedd cysylltiadau Cymreig gyda llawer o'r dosbarth ac eraill yn dysgu oherwydd diddordeb mewn ieithoedd. Mae'n galonogol iawn fod llawer ohonyn nhw yn dal i gysylltu try'r e-bost ac yn dal i ddysgu Cymraeg (gan gwnnwys grwp yn nhalaith Vermont a dyn arall sydd yma yn dysgu yng Nghymru ar hyn o bryd). Gobeithio'n wir y byddan nhw'n dod nôl i gyrsiau Cymraeg Cymdeithas Madog yn y dyfodol. Rhaid peidio ag anghofio chwaith y criw bach ffyddlon o ddawnswyr oedd yn dod i'r sesiynau dawnsio gwerin bob prynhawn: roedden nhw'n sêr go iawn!
Erbyn 1997, beth sy'n aros yn y cof? Well pobl yn bennaf - y dysgwyr oedd wedi gweithio mor galed (yn ystod y dydd - a'r nos!!) ac yn rhoi 100% i bopeth. Roedd eu diddordeb di-derfyn a'r awydd i ddysgu cymaint ag oedd yn bosibl am Gymru a'r Gymraeg mewn wythnos yn ysbrydoliaeth. Mae'n wir dweud fod llawer ohonyn nhw yn dal i ysgrifennu a chysylltu ar ôl y cwrs ac wedi dod yn ffrindiau mawr: gobeithio gweld rhai ohonynt yn ystod 1997. Roedd y grefnwyr hefyd - yn enwedig Loretta a Mel - yn hynod o garedig a chymwynasgar: diolch eto iddyn nhw a phawb arall yng Nghymdeithas Madog am y croeso a chymorth parod a gafwyd. Yn olaf, bydd Vermont ei hunan a'i chysylltiadau â Chymru yn aros yn y cof - roedd dod i wybod am y Cymry aeth i'r rhan honno o'r Unol Daleithiau yn ddiddorol dros ben yn enwedig ar ôl cwrdd â William Williams yn Granville oedd yn dal i siarad Cymraeg (ac wedi'i enwi yn yr Unol Daleithiau!). Mae'r rhan hon o America yn rhan o Loegr Newydd fydd yn Gymru am byth.
Y Tri Ffrind
- Details
- Written by: Marta Weingartner Diaz
- Category: Readings In Welsh
- Hits: 2040
Dyma stori fer am dri ffrind yn edrych am Angau. Mae'r stori yn seiliedig ar hanes o'r bedwaredd ganrif ar ddegau. Cafodd y stori hon ei haddas yn enwedig i ddysgwyr gan Marta Weingartner Diaz. Mae Marta'n athrawes Gymraeg brofiadol ac mae hi wedi dysgu ar lawer o Gyrsiau Cymraeg Cymdeithas Madog dros y blynyddoedd.
Y Tri Ffrind
Un diwrnod ym Mis Mai, roedd tri dyn ifanc yn eistedd mewn tafarn, yn chwarae cardiau, yfed gwin, a chwerthin am ben Duw a'r Diawl. Roedd y bywyd gwyllt a dreuliodd y tri yn enwog trwy'r dref. Poenai mamau am eu merched, a dymunai pob tad ddiwedd cynnar i'r tri. Ond beth oedd ymateb y tri? Dim ond chwerthin mwy, a dal i yfed.
Y bore hwn, pan oedd y tri'n agor potel arall o win, clywon nhw swn cloch yn y stryd. Wrth edrych trwy'r ffenestr, gwelon dorf o bobl yn cerdded yn araf ar hyd y stryd dan wylio, a phawb mewn gwisg du. Esboniodd y tafarnwr fod Angau wedi cymryd dyn tlawd o'r ardal, yn gadael ei wraig a'i blant ef heb geiniog goch yn y byd. Aeth y tri ffrind yn ôl at eu gwin.
"Mewn gwirionedd," meddai'r cyntaf, "Angau ydy ein gelyn gwaethaf. Mae e'n aros am bawb, ac yn cymryd pob un. Does neb yn dianc."
"Rwyt ti'n iawn," meddai'r ail ffrind, "Fe hoffwn i yfed, dim ond yfed bore a nos, heb ofni i Angau ddod a rhoi diwedd ar fy hwyl. Ond sut gallaf i fod yn hapus, gan wybod bod Angau'n dal i fyw?"
"Myn Duw!" crïodd y trydydd, "Mae'n hollol wir - Angau ydy ein gelyn gwaethaf! Beth am i ni ladd Angau, a dod yn arwyr mawr? Dewch, frodyr, rhowch i mi eich dwylo amdani: awn i chwilio am Angau, ble bynnag y bo, a'i ddal, a'i ladd. Dewch, yfwn wydryn arall, frodyr, ond y tro yma, yfwn i angau Angau! Ac wedyn, awn allan i ddod o hyd iddo fe!"
Brysiodd y tri'n wyllt allan o'r dref i'r wlad. Ymhen awr cwrddon nhw â hen wr gyda barf wen, yn cerdded yn araf ar hyd y ffordd.
"Duw fyddo gyda chi," meddai'r hen wr yn gyfeillgar.
"Ha ha! Duw gyda ni?" chwarddodd un o'r ffrindiau. "Ond dywedwch, hen wr, pam rydych chi yma ar eich pen eich hun fel yna? Rydych chi mor hen - pam dydych chi ddim wedi marw? Rydw i'n meddwl mai chi ydy Angau, sy'n chwilio am bobl."
"O nage," meddai'r hen wr, "Rydw i mor hen achos dyna ewyllys Duw. Fe hoffwn i farw, ond bob tro i mi ofyn i Angau fy nghymryd, mae e'n dweud, 'Nage, hen wr, dydy dy amser ddim wedi dod eto.' Ond wnewch chi adael i mi fynd ymlaen, foneddigion?"
"Na wnawn, fy hen wr," meddai'r ail ffrind, "Allai neb fod mor hen â chi. Nid dyn ydych chi, ond gwas Angau."
"Ha!", crïodd y trydydd, "Ffwl ydych chi, os ydych chi'n feddwl ein bod ni'n eich credu chi. Helpwr Angau ydych chi. Ac fe fyddwn ni'n eich lladd chi, os dydych chi ddim yn dweud wrthon ni ble mae eich meister chi."
"Wel, os ydych chi am ddod o hyd i Angau," atebodd yr hen wr yn araf, "ewch ymlaen ar y ffordd yma, nes i chi weld derwen ar yr ochr dde. Dan y dderwen 'ma Angau'n byw. Duw fyddo gyda chi."
Rhedodd y tri ffrind nerth eu traed nes cyrraedd y dderwen. Ac oedd, roedd rhywbeth yn gorwedd wrth fôn y goeden, ond nid Angau: saith sach fawr, ac ynddynt drysor werthfawr! Cododd calonnau'r tri ffrind wrth weld darnau arian yn disgleirio yn yr heulwen. Anghofion nhw'n llwyr am Angau, a dechrau rhifo'r darnau arian, gan freuddwydio am y bywyd moethus a di-ofal a'u disgwyliodd.
Trafodon nhw beth i wneud gyda'r drysor. Pe tasen nhw'n ei chario hi'n syth yn ôl i'r dref, byddai pobl yn meddwl eu bod nhw wedi dwyn yr arian, a byddai'r tri yn cael eu crogi fel lladron, yn ddiau. Penderfynon nhw fwrw coelbren: byddai rhaid i'r dyn a gollodd fynd yn ôl i'r dafarn a phrynu bwyd a gwin i ginio, a'r ddau arall yn aros a gwarchod y drysor. Wedyn, yn y nos, byddai'r tri ohonyn nhw'n cario'r drysor yn saff yn ôl i'r dref. Bwrwon goelbren ar unwaith. Collodd y ieuaf, a chychwynodd am y dref.
Prin oedd yr ieuaf wedi ymadael, pan ddechreuodd y ddau arall siarad am y drysor.
"Fe fyddwn ni'n cael mwy o arian os ydyn ni'n rhannu'r drysor yn ddwy ran yn lle tair," meddai'r cyntaf.
"Ond sut mae'n bosib? Mae tri ohonon ni," atebodd ei ffrind.
"Y ffwl dwl! Rydw i'n siarad am rannu'r drysor rhyngot ti a fi. Beth am ladd ein ffrind ni pan ddaw yn ôl? Fel yna, byddwn ni'n dau'n gallu byw mewn moethusrwydd."
Cytunodd y llall, ac arhosodd y ddau i'w ffrind ddod yn ôl.
Ar y ffordd i'r dref, roedd y ieuaf yn meddwl rhywbeth tebyg.
"Pam dylwn i rannu'r arian gyda'r ddau arall? Mae'n well 'da fi gadw'r holl drysor fy hunan."
Yn y dref prynodd gig, bara a thair potel o win. Yna, aeth i siop apothecari, lle prynodd wenwyn "ar gyfer llygod mawr," fel esboniodd wrth yr apothecari. Ar y ffordd allan o'r dref, rhoddodd y gwenwyn i mewn i ddwy o'r poteli, gan guddio'r drydded botel yn ei boced i'w hunan.
Oes rhaid dweud mwy? Pan gyrhaeddodd yr ieuaf y dderwen, rhedodd un o'i ffrindiau i'w gofleidio wrth i'r llall ei frathu gyda chyllell. Wedyn eisteddodd y ddau ar y llawr i ddathlu'r weithred, a bwyta'r bwyd ac yfed a gwin oedd eu ffrind wedi'u cario o'r dref. Cymerodd pob un botel o'r gwin lle roedd Angau yn aros, i yfed i iechyd y llall ac i'r dyddiau hapus i ddod.
Fore trannoeth, disgleiriodd yr haul ar y dderwen, ar y blodau wrth fôn y goeden, ac ar wynebau llwyd y tri ffrind yn gorwedd yn dawel yn y glaswellt.
Mae Angau, pan rydych chi'n chwilio amdano fe, yn hawdd i'w ffeindio.
Geirfa
- yn seiliedig ar - based on
- y bedwaredd ganrif ar ddeg - the fourteenth century
- diwrnod (masc.) - day
- chwerthin am ben - to laugh at
- Y Diawl - the Devil
- gwyllt - wild
- enwog - notorious
- poeni - to worry [poenai - used to worry]
- dymuno - to wish
- diwedd (masc.) cynnar - an early end
- ymateb (fem.) - response, reaction
- dal i + verb - to continue (to do something)
- torf (fem.) - crowd
- wylo - to weap
- yr Angau (masc.) - Death
- esbonio - to explain
- tlawd - poor
- ardal (fem.) - area
- ceiniog (fem.) - penny
- gwirionedd (masc.) - truth [also: mae'n wir - it's true]
- gelyn (masc.) - enemy
- gwaethaf - worst
- dianc - to escape
- ofni - to fear
- hwyl (fem.) - fun
- Myn Duw - by God
- yn holloll - entirely [also: holl - entire, whole]
- lladd - to kill
- arwyr - heroes [singular: arwr (masc.) - hero]
- brodyr - brothers
- chwilio am - to look for
- ble bynnag y bo - wherever he may be
- dal - to catch
- gwydryn (masc.) - glass
- y tro yma - this time [also: bob tro - every time]
- dod o hyd i - to find [also: am ddod o hyd i - to want to find]
- ymhen awr - at the end of an hour
- barf (fem.) - beard
- Duw fyddo gyda chi - God be with you
- cyfeillgar - friendly
- chwarddodd - laughed [from chwerthin - to laugh]
- fel yna - that way, like that
- mai - that
- ewyllys (fem.) - will
- boneddigion - gentlemen [singular: bonheddwr (masc.) - gentleman]
- gwas (masc.) - servant
- derwen (fem.) - oak tree
- nerth eu traed - as fast as their feet could carry them
- gorwedd - to lie down
- bôn (masc.) - trunk
- trysor (fem.) - treasure
- gwerthfawr - valuable
- wrth weld - upon seeing
- darn (fem.) - piece
- disgleirio - to shine
- heulwen (fem.) - sunshine
- yn llwyr - completely
- rhifo - to count
- breuddwydio - to dream
- moethus - luxurious [also: moethusrwydd (masc.) - luxury]
- di-ofal - carefree
- disgwyl - to await
- trafod - to discuss
- pe tasen nhw - if they were to
- dwyn - to steal
- crogi - to hang
- lladron - thieves [singular lleidr (masc.) - thief]
- diau - doubtless
- bwrw coelbren - to cast lots
- gwarchod - to guard
- cychwyn - to set out
- prin - scarely
- ymadael - to leave
- ieuaf - youngest
- rhannu - to divide [also: rhan (fem.) - part]
- pan ddaw - when he comes
- cytuno - to agree
- y llall - the other
- tebyg - similar
- dylwn i? - should I?
- mae'n well 'da fi - I'd rather
- lle - where
- gwenwyn (masc.) - poison
- ar gyfer - for
- llygod mawr - rats [singular llygoden fawr (fem.) - rat]
- cuddio - to hide
- cofleidio - to embrace
- brathu - to stab
- dathlu - to celebrate
- gweithred (fem.) - deed
- tawel- silent
- glaswellt - grass
- hawdd - easy
Gwreiddiau
- Details
- Written by: Glenson T. Jones
- Category: Readings In Welsh
- Hits: 1902
Dyma draethawd gan Glenson T. Jones, myfyriwr Cwrs Cymraeg Y Mileniwm yng Nghaerfyrddin. Ar y pryd, yn lefel 1 oedd o. Ond mae'n amlwg ei fod o wedi bod yn gweithio'n galed ar y Gymraeg. Dyma ei stori.
Gwreiddiau
Beth sydd yn ysgogi rhywun i chwilio am eu gwreiddiau? Rhyw deimlad bod rhywbeth wedi cael ei golli? Trio gweld os basa bywyd wedi bod yn wahanol petasai hyn a hyn wedi digwydd, neu ddim wedi digwydd? Neu efallai i'r rhai ohonon ni sydd ddim wedi cael ein magu yng Nghymru yr angen mwy o wybodaeth am ein cefndir. Hiraeth?
Mi ges i fy ngeni yn Abertawe ond des i i Ganada pan oeddwn i'n ddwy flwydd oed. A dyma fi yn Ottawa nawr gyda amser ar fy nwylo a'r teimlad yn gryf fy mod i eisiau gwybod mwy am ddreigiau fy nghyndeidiau. Sut fath o fywyd baswn i wedi cael mewn dinas yng Nghymru? Pa fath o fywyd oedd mewn entref yng Nghymru 100, 200 neu 300 mlynedd yn ôl?
Doeddwn i ddim, mewn gwirionedd, eisiau troi'r cloc yn ôl, dim ond eisiau archwilio fy ochr Gymreig. Yr ochr a oedd bron wedi cael ei anwybyddu am dros drigain mlynedd. Yr iaith, yr hanes, y diwylliant.
Ond sut i wneud hyn? Dwi wedi sylweddoli pellach bod dysgu allan o lyfr yn fy amser sbââr yn wastraff amser. Roeddwn i eisiau rhyw hwb go sydyn, rhywbeth i fy ngosod ar y cledrau cyflym ac i roi fflam i'r gwreichion.
Roeddwn i wedi clywed am gwrs Gymraeg yng Nghaerfyrddin, cwrs un wythnos, yn Awst 2000. Wrth gwrs mi ddysgais beth o Gymraeg ond yn fwy na hynny mi enillais lawer o hunan hyder a chododd fy niddordeb yn yr iaith a'r diwylliant Cymreig. Ar y bedwaredd diwrnod aethon ni i'r farchnad yng Nghaerfyrddin i gyfarfod siopwyr. Dw i'n siwr roedden nhw'n cael eu diddanu gan ein hymdrechion ond roedden nhw'n falch ein bod ni wedi gwneud yr ymdrech. Roedd pawb yn nymunol iawn. Yr wythnos wedyn es i i'r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli gyda dau ddiwrnod yng Nghaerdydd. Ar y cyfan profiad gwefreiddiol, ond yn flinedig hefyd.
Wrth lwc mae prifysgol Ottawa yn cynnal cwrs Cymraeg sylfaenol a phellach dw i wedi cwblhau y tymor gyntaf ac yn edrych ymlaen at yr ail.
A sut ydw i wedi llwyddo i gyrraedd y safon hyn mor gyflym?
Yr ateb yw fy mod i wedi ymddeol ac wedi gosod ar wahân llawer o oriau i fy astudiaethau. Roedd cwrs y brifysgol yn cynnwys yr ugain gwers gyntaf o hen gyfres 'Catchphrase' y BBC ond hefyd mi roeddwn i wedi cael gafael ar gasetiau yn cynnwys dros gant o'r gwersi a phellach dw i wedi gwrando ar dros drigain ohonyn nhw tra mod i'n gyrru o amgylch Ottawa bob dydd. (Mae pobl sydd wedi ymddeol yn ffeindio rhywbeth i wneud a rhywle i fynd yn eu hamser hamdden.)
Mae gen i lawer iawn i ddysgu eto ond fel dw i'n dweud yn aml does na ddim pwrpas heneiddio os na allwch chi ei fwynhau. I ysgrifennu erthygl fel hyn mae'n rhaid i mi ddibynnu ar lawer geiriadur, llyfr gramadeg, llyfr am strwythurau'r ferf a hefyd llyfr ymadroddion Cymraeg i ddysgwyr. Ond pob tro dw i'n gwneud rhywbeth, dw i'n dysgu, ac mae'r tro nesaf yn haws.
Cyn diwedd y flwyddyn dw i'n gobeithio gallu darllen llyfrau i ddysgwyr
Geirfa
- Ysgogi - to stir
- Gwreiddiau - roots
- Amser ar fy nwylo - time on my hands
- Dreigiau fy nghyndeidiau - the dragons of my forefathers
- Archwilio - to research
- Anwybyddu - to ignore
- Diwylliant - culture
- Gwastraff amser - waste of time
- Cledrau cyflym - fast track
- Gwreichion - sparks
- Ennill - to win
- Hunan hyder - self confidence
- Diddordeb - interest
- Diddanu - to amuse
- Ymdrechion - attempts
- Dymunol - pleasant
- Ar y cyfan - on the whole
- Gwefreiddiol - thrilling
- Blinedig - tiring
- Sylfaenol - basic
- Cwblhau - to complete
- Edrych ymlaen - to look forward to
- Gosod ar wahân - to set aside
- Astudiaethau - studies
- Cynnwys - contents
- Cael gafael - to get hold of
- O amgylch - around
- Heneiddio - to get older
- Strwythur - structure
- Ymadroddion - sayings
- Haws - easier
Gwibdaith i Harpers Ferry
- Details
- Written by: Mark Stonelake
- Category: Readings In Welsh
- Hits: 1819
Mae Mark Stonelake wedi dysgu ar sawl Cwrs Cymraeg Cymdeithas Madog dros y blynyddoedd. Ysgrifennodd yr erthygl hon ar ôl gwibdaith i Harper's Ferry yn ystod Cwrs Dyffryn Shenandoah, 2011.
Gwibdaith i Harpers Ferry
Ro’n i’n breuddwydio am seidr oer a hufen iâ pan stopiodd y bws a dihunais i weld ein bod wedi cyrraedd y dre fach hanesyddol ar *‘brynhawngwaith teg o haf hirfelyn tesog’. Yn wahanol i’r ‘Bardd Cwsg’, doedd dim * ‘spienddrych’ gyda fi ‘i helpu fy ngolwg egwan, i weled pell yn agos, a phetheu bychain yn fawr’. Diawch, roedd hi’n dwym! Dwedodd rhywun ei bod yn 94 gradd. Felly, ni *‘chymerais hynt i ben un o fynyddoedd’ yr ardal ac arhosais yn y dref gyda fy sbectol haul. Cawson ni ein tywys o gwmpas y dref gan ddau ddyn gwybodus, wedi’u gwisgo mewn dillad y 19eg ganrif gan gynnwys drylliau’r cyfnod. Clywon ni am ba mor bwysig oedd safle strategol y dref yn ei datblygiad, ar aber dwy afon – y Shenandoah a’r Potomac, rhwng tair talaith – Virginia, West Virginia a Maryland ac ar gamlas Chesapeake ac Ohio heb sôn am reilfordd Baltimore ac Ohio a Winchester a Potomac a’r arfdy a godwyd yn 1790. Dim syndod bod John Brown wedi ceisio dechrau ei wrthryfel yn erbyn caethwasiaeth yma drwy ymosod ar yr arfdy i ddwyn ei gynnwys yn 1859, a bod y lle wedi newid dwylo wyth gwaith rhwng 1861 a 1865 yn ystod y Rhyfel Cartref. Mae Llwybr Appalachia yn mynd trwy’r dref a thwristiaeth, nid diwydiant sy’n cadw’r blaidd o’r drws erbyn hyn.
Wedi dysgu llwyth o bethau am y lle a’i hanes, aethon ni am dro o gwmpas y dref gan alw heibio i’r siop lyfrau. Diolch byth am yr aerdymheru, meddwn i. Cyrhaeddodd pawb y bws mewn da bryd a dechreuon ni ein taith yn ôl i’r brifysgol. Roedd pawb yn rhy flinedig i ganu, felly setlais yn ôl yn fy sedd…
*‘ac wedi â 'm Meddwl daeth blinder, ac ynghyscod Blinder daeth fy Meistr Cwsc yn lledradaidd i 'm rhwymo; ac â 'i goriadeu plwm fe gloes ffenestri fy Llygaid a 'm holl Synhwyreu eraill yn dynn ddiogel.’
Mewn geiriau eraill, ro’n i wedi blino’n lân ac es i i gysgu. Rwy’n gwybod nad yw hwnnw mor bert a geiriau Ellis Wynne, ond beth dych chi’n ei ddisgwyl, nid y ‘Bardd Cwsg’ mohonof.
*Gweledigaethau’r Bardd Cwsg gan Ellis Wynne
Geirfa
- hanesyddol - historical
- talaith - state
- spienddrych - spyglass
- camlas - canal
- tywys - to lead/guide
- gwrthryfel - revolt
- gwybodus - knowledgeable
- caethwasiaeth - slavery
- dryll - gun
- rhyfel cartref - civil war
- safle - site
- aerdymheru - air conditioning
Page 17 of 24