Home
Y Dywysoges A'r Bysen
- Details
- Written by: Marta Weingartner Diaz
- Category: Readings In Welsh
- Hits: 2084
Dyma stori enwog Hans Christian Anderson am y tywysoges a'r bysen. Cafodd y stori hon ei chyfieithu gan Marta Weingartner Diaz.
Y Dywysoges A'r Bysen
Roedd unwaith, yn yr hen ddyddiau, dywysog hardd; roedd e eisiau priodi tywysoges, ond roedd rhaid iddi fod yn dywysoges go iawn. Teithiodd y tywysog felly trwy'r byd i gyd, yn chwilio am dywysoges wir, ond heb lwc. Roedd digon o dywysogesau i'w cael yn y byd, wrth gwrs, ond ai tywysogesau go iawn oedden nhw? Doedd y tywysog ddim yn siwr; bob amser roedd rhywbeth o'i le arnyn nhw. Dychwelodd gartref, felly, ac roedd yn drist iawn; roedd e wedi gobeithio'n arw cael tywysoges go iawn.
Un noson roedd y tywydd yn ofnadwy; taranodd a melltennodd, daeth y glaw i lawr mewn bwcedi - yn fyr, roedd yn hollol ddychrynllyd. Yn sydyn cnociodd rhywun ar ddrws y castell, ac aeth yr hen frenin i'w agor.
Tywysoges oedd yn sefyll yno. Ond diawl, y golwg a oedd arni, gyda'r glaw a'r tywydd stormus! Llifodd y dwr i lawr o'i gwallt a'i dillad a'i esgidiau, ond dywedodd hi ei bod yn dywysoges wir.
"Wel, fe gawn ni weld am hynny!" meddyliodd yr hen frenhines, ond ddywedodd hi ddim byd. Aeth i'r ystafell wely, cododd y dillad gwely, dododd bysen ar y fatras, rhoddodd ddau ddeg matras ar y bysen, ac wedyn dau ddeg cwilt ar y matresi.
A threuliodd y dywysoges y nos yno.
Yn y bore gofynodd pawb oedd hi wedi cysgu'n dda.
"O, yn ddiflas dros ben!" atebodd y dywysoges, "chysgais i ddim winc trwy'r nos! Duw a wyr beth oedd yn y gwely yno! Mi orweddais i ar rywbeth caled, ac mae fy nghorff i gyd yn ddu ac yn las! Roedd yn ofnadwy!"
Gallodd pawb weld ei bod yn dywysoges go iawn, oherwydd ei bod wedi teimlo'r bysen trwy'r ddau ddeg matras a'r ddau ddeg cwilt: neb ond tywysoges wir allai fod mor groendenau.
Priododd y tywysog y dywysoges ar unwaith, achos nawr roedd e wedi dod o hyd i dywysoges go iawn, ac aeth y bysen i'r amgueddfa genedlaethol, ble mae hi o hyd i'w gweld, os dydy neb wedi ei dwyn.
A dyna stori go iawn!
Geirfa
- tywysoges - princess; tywysog - prince
- pysen - pea
- priodi - to marry
- go iawn - proper
- gwir - real
- chwilio - to search
- rhywbeth o'i le ar... - something wrong with...
- dychwelyd - to return
- yn arw - terribly (from garw)
- taranu - to thunder
- melltennu - to flash lightening
- yn fyr - in short
- yn hollol - entirely
- dychrynllyd - frightful
- golwg - sight
- llifo - to flow
- treulio - to spend
- Duw a wyr - God knows
- gorwedd - to lie
- teimlo - to feel
- croendenau - thin-skinned, sensitive
- dod o hyd i - to find
- yr amgueddfa genedlaethol - the national museum
- dwyn - to take, steal
Pam Ydw I Yma: Why Indeed?
- Details
- Written by: Cefin Campbell
- Category: Readings In Welsh
- Hits: 2013
Mae Cefin Campbell, athro Cymraeg brofiadol o Dde Cymru, wedi dysgu ar sawl Cwrs Cymraeg Cymdeithas Madog dros y blynyddoedd.
Pam Ydw I Yma: Why Indeed?
Y mae fy nghysylltiad cyntaf â Chymdeithas Madog yn mynd yn ôl i 1986 pan ces i wahoddiad i ddysgu ar Gwrs Gymraeg Y Bedol Aur yn Nhoronto. Dyna'r tro cyntaf erioed i mi ymweld â Gogledd America ac yr oedd yn brofiad bythgofiadwy.
Ers hynny yr wyf wedi bod yn ffodus o gael gwahoddiad i fynd yn ôl nifer o weithiau fel athro ac arweinydd cwrs. Y cyrsiau eraill yr wyf wedi bod yn dysgu arnynt yw'r rhai a gafodd eu cynnal yn Cincinnatti (1987), Boston (1988), Atlanta (1995), Indianola (1997) a Berkeley, San Francisco (1998).
Dros y blynyddoedd yr wyf wedi cael y pleser o gyfarfod â nifer o bobl ddiddorol iawn, llawer yr wyf yn parhau mewn cysylltiad â nhw heddiw. Drwy'r cyfeillgarwch hwn yr wyf wedi dod i adnabod Cymry America yn well - eu hanes ac yn arbennig eu hymdrechion i gynnal eu hunaniaeth fel pobl dros gyfnod o ganrifoedd.
Yr hyn sydd wedi bod o ddiddordeb arbennig i mi yw'r rhesymau pam y mae cannoedd o bobl o bob rhan o Ogledd America wedi mynychu cyrsiau Cymdeithas Madog yn rheolaidd dros y blynyddoedd diwerthaf. Y mae rhai o'r rhesymau yn ddigon amlwg - cysylltiad teuluol â Chymru neu'r awydd i astudio'r Gymraeg fel pwnc academaidd, ond mae rhesymau eraill eithaf 'bizarre' wedi codi o bryd i'w gilydd. Pwy fasai'n meddwl bod cadw corgi Cymreig yn rheswm dros ddysgu Cymraeg neu bod yn ffan o'r Dywysoges Diana neu Tom Jones? A beth am yr un ddaeth ar gwrs Cymraeg am eu bod yn gwerthu cwrw Felinfoel yn ei 'liquor store' lleol. Wel, ble gwell i ddod na chwrs Cymraeg i ddysgu mwy am gwrw Cymru?!
Unig rheswm un wraig o Bennsylvania am ddod ar gwrs oedd gallu dweud 'Llanfairpwyllgwyngyll etc' heb anadlu, ac un arall o Wisconsin eisiau dysgu Gweddi'r Arglwydd ar ei chof. Ac yna'r dyn yn Cincinatti a ddaeth yn arbennig i ofyn os oedd un o'r athrawon o Gymru yn adnabod ei Wncwl Wil Thomas oedd yn byw rhywle yn Ne Cymru!
Ond y stori orau oedd yr aelod o Greenpeace a oedd wedi gweld poster yn dweud 'Save Whales' a dod ar gwrs i achub Cymru!
Ond heblaw am eithriadau fel hyn y mae'r ymroddiad sydd yn cael ei ddangos gan bobl sydd yn dod ar gyrsiau Cymdeithas Madog wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi dros y blynyddoedd. Yr wyf yn aml wrth siarad â chymdeithasau neu fudiadau yng Nghymru yn cyfeirio at frwdfrydedd pobl Gogledd America am yr iaith, ei hanes a'i diwylliant, ac yn gobeithio rhyw ddydd y bydd y rhan fwyaf o bobl Cymru yn dangos yr un diddordeb mewn iaith a diwylliant.
Gobeithio y caf gyfle i gadw fy nghysylltiad â Chymdeithas Madog mewn rhyw ffordd neu'i gilydd dros y blynyddoedd nesa.
Yr Ymadawiad Mawr Yn Null America
- Details
- Written by: Heini Gruffudd
- Category: Readings In Welsh
- Hits: 1965
Mae Heini Gruffudd wedi dysgu ar sawl Cwrs Cymraeg Cymdeithas Madog dros y blynyddoedd. Athro brofiadol yn Ne Cymru ac awdur sawl lyfr i ddysgwyr, mae o'n dysgu Cymraeg yn y coleg yn Abertawe. Ysgrifennod Heini'r ddarn o farddoniaeth ar ôl Cwrs Cymraeg Atlanta, 1995.
Yr Ymadawiad Mawr Yn Null America
Sut bydd y ffarwel ola?
A fydd munudyn seremoni?
Wedi oes o wres,
o fyw ar drydan nerfau,
a chyffro cyrff,
a geir un gusan laith
neu anwes glyd,
neu a gaf olwg ohonot o bellter clwyfus?
Ynteu a gerddi i'r lifft i'r seithfed llawr
heb wybod fod y foment fawr ar fod?
(Neu ai i'w osgoi,
i wylo dros ynfydrwydd byw;
neu ai'n ddifater ei?
Er poeni,
ni allaf boeni mwy).
Y pryd hwnnw,
os caf,
fe gaf i ganu'n iach i'r lleill,
rhai'n anwyliaid oes,
codi llaw ar hwn a'r llall,
ysgwyd llaw,
a choflaid.
Yna camaf tua'r limo gwyn,
a ddaeth i'm cludo o'r tir newydd hwn,
i'r hen, hen fyd,
i'r lle y tarddodd amser, celf a llen,
(a'r awch i ladd)
A'r pryd hwnnw,
fel diwedd breuddwyd braf,
fe ddoi i blith y lleill,
ac estyn llaw i mi i'w dal yn dyn
Un olwg olaf wedyn, codi llaw,
a dyna ni,
a minnau nawr,
yng nghlydwch soffa lledr du y limo hir,
yng nghwmni gyrrwr boldew mud,
a bar wrth law,
a teithwyr byd yn bwrw golwg syfdan,
yn cyrchu tua Hartsfield
i gael esgyn fry i'r nen.
Cwrs Cymraeg Poultney, Vermont
- Details
- Written by: Heini Gruffudd
- Category: Readings In Welsh
- Hits: 1924
Mae Heini Gruffudd wedi dysgu ar sawl Cwrs Cymraeg Cymdeithas Madog dros y blynyddoedd. Athro brofiadol yn Ne Cymru ac awdur sawl lyfr i ddysgwyr, mae o'n dysgu Cymraeg yn y coleg yn Abertawe. Dyma adrodd Heini ar Gwrs Cymraeg Y Mynyd Glas, Poultney, Vermont. 1996.
Cwrs Cymraeg Y Mynedd Glas - 1966
Mae'r ymfudo mawr i America'n un o benodau mwyaf cyffrous hanes Cymru. Erbyn diwedd y ganrif ddiwethaf reodd 100,000 o bobl a anwyd yng Nghymru yn byw yn yr Unol Daleithiau, a'u plant a'u hwyrion hefyd. Roedd y cyfnod hwnnw'n un o antur mawr, wrth i weithwyr haearn, dur, copor a glo, chwarelwyr, ffermwyr a gweinidogion, fentro ar longau digon simsan ar draws y môr mawr.
Fe lwyddodd y rhan fwyaf i gael bywoliaeth dda, a phrofi fod y Cymry, ond iddyn nhw gael cyfle, yn gallu llwyddo ym mhob maes o fywyd. Ond eu disgynyddion nhw heddiw sy'n gorfod codi'r darnau a oedd wedi disgyn. Ymhlith y darnau a chwalwyd, gwaetha'r modd, mae'r Gymraeg. Mae'n ysbrydoliaeth fod cymaint o Gymry America heddiw'n ailafael yn yr iaith, ac roedd y Cwrs Cymraeg yn Poultney, Vermont, eleni, yn dyst i'r brwdfrydedd newydd.
Fel y disgwyl, erbyn hyn, cafwyd wythnos o weithgareddau di-baid, gwersi brwd, a nosweithiau hwyliog. Oherwydd bod cymaint wedi dod i'r cwrs - tua wyth deg, roedd rhaid cael pedwar athro o Gymru. Roedd saith dosbarth dysgu, a braf oedd gweld cynifer o ddysgwyr newydd wedi dod. Mae'r cwrs erbyn hyn yn llwyddo i ddenu bobl newydd i ddysgu'r iaith. Gwelwyd hyn yn Atlanta ac yn Poultney.
Beth oedd uchafbwyntiau'r cwrs eleni? Yn sicr, mae'r cwrs yn gyfle i hen gyfeillion gwrdd, ac mae'n rhoi chwistrelliad o Gymreictod i bawb sy'n dod. Mae'n dda cael nerth newydd i'r batri! Trwy'r gweithgareddau anffurfiol - y sgyrsio amser bwyd, y cwmnïa fin nos, mae rhwymyn o gyfeillgarwch yn gafael yn dyn.
Roedd hi'n braf hefyd cwrdd â wynebau newydd. Rhai wedi hedfan yn arbennig o Galiffornia, brenhines prydferthwch wedi dod o Puerto Rico, a nifer o Efrog Newydd. Gobeithio y bydd y rhain i gyd yn gallu dal eu gafael yn eu hiaith newydd.
Profiad gwerthfawr i bawb ar y cwrs oedd darganfod y gwreiddiau Cymraeg yn y rhan hon o'r byd. Roedd gweld y Ddraig Goch yn cyhwfan y tu allan i'r gwesty lleol, gweld enwau Cymraeg ar dai ac ar geir, a darganfod trigolion Cymraeg a disgynyddion y Cymry cynnar yn gyffrous.
Ar ôl dod yn ôl i Gymru, fe welais ddisgrifiad o ardal chwareli Vermont, a chyfraniad y Cymry i ddatblygiad yr ardal yn llyfr William D. Davies, America a Gweledigaethau Bywyd (Merthyr Tydfil, 1894). Meddai fe mai'r Cymro cyntaf i agor chwarel yn yr ardal oedd Owen Evans. Yna ceir sôn am Hugh W. Hughes, "brenin y chwarelau".
Diolch i Janice Edwards a'r pwyllgor trefnu, cafwyd cyfle i gael blas ar y gorffennol cyfoethog hwn. Roedd y daith o gwmpas y chwareli a'r capeli Cymraeg, a'r mynwentydd yn arbennig, ac roedd clywed y Gymraeg yn dal ar wefusau rhai o'r trigolion lleol yn wefreiddiol. Fe gofiwn hefyd y gymanfa ganu yn y capel lleol, a Jac yn arwain yn frwd hyd at chwysu.
Tipyn o gamp oedd yfed y dafarn leol yn sych, ond y pleser oedd treulio'r noson honno'n canu alawon Cymru: dyna hefyd y wefr a gafodd y tafarnwr ar y noson ganu swyddogol, pan gafodd ei gyffroi i'r fath raddau nes codi'r ffôn er mwyn i'w wraig gael clywed y canu. Ffilm Hedd Wyn wedyn - ffilm a barodd ias i rai nad oedd yn gyfarwydd â'r hanes. Gallwn ychwanegu hwyl y dawnsio gwerin a'r noson lawen..digon yw dweud i'r wythnos fod yn un fythgofiadwy.
Yn sail i'r cyfan, wrth gwrs, roedd yr awydd i feistroli'r Gymraeg, ac fe wnaed hynny'n effeithiol ac yn ddyfal yn y gwersi cyson bob dydd. Roedd yn bleser gweld sut roedd rhai o'r mynychwyr wedi datblygu ers y cwrs y llynedd, a'r Gymraeg bellach yn dod yn iaith gyfarwydd iddynt.
Ni fydd yr athrawon o Gymru'n anghofio'u hymwelaid. Fe gawson ni flas byr ar Efrog Newydd cyn dod, ond roedd hi'n falm i'r enaid cyrraedd gwlad braf Vermont, a oedd yn atgoffa dyn am Gymru, ac roedd pentref Poultney yn fan dymunol a chyfeillgar.
Yn ddigon diddorol, fe ddes ar draws cyfeiriad at Poultney mewn llyfr a ysgrifennwyd ar America yn 1883 (y llyfr taith cyntaf yn y Gymraeg, tybed? Dros Cyfanfor a Chyfandir, William Davies Evans, Aberystwyth). Meddai'r awdur am Poultney: ".. gwelais un o'r pentrefi glanaf ac iachusaf yr olwg arno. Oddiwrth led mawr ac uniawnder ei heolydd, gwychder ei adeiladau, a threfn tyfiant ei brenau cysgodawl, gallwn dybio ei fod yn lle paradwysaidd yn yr haf."
Wel do, fe gawson ni wythnos baradwysaidd. Blas ar hanes, ar Gymru ac ar y Gymraeg. Diolch i bwyllgor gweithgar Cymdeithas Madog am eu trefniadau trylwyr arferol, a roddodd i'r athrawon ac i'r mynychwyr wythnos wrth fodd pawb.
Geirfa
- ymfudo - to emigrate
- cyffrous - exciting
- cyfnod - period
- sinsan - rickety
- disgynnydd - descendant
- ailafael - reacquire
- brwdfrydedd - enthusiasm
- denu - attract
- chwistrelliad - injection
- brenhines prydferthwch - beauty queen
- darganfod - to discover
- cyhwfan - to wave
- trigolion - inhabitants
- datblygiad - development
- gweledigaeth - vision
- pwyllgor - committee
- gorffennol - past
- mynwent - cemetary
- chwysu - to sweat
- camp - feat
- cyffroi - to excite
- ychwanegu - to increase
- bythgofiadwy - unforgettable
- sail - foundation, base
- mynychwyr - attendee
- dymunol - pleasant
- cyfeillgar - friendly
- diddorol - interesting
- tybed - I wonder
- lled - wide
- uniawnder - straightness
- tyfiant - growth
- cysgodawl - shady
- trylwyr - thorough
- arferol - usual
Page 16 of 24