Hen Madog
  1. You are here:  
  2. Home

Home

Chair 1989 - Breuddwydio

Details
Written by: John Otley
Category: Cymdeithas Madog Chair Competition
Published: 07 March 2011
Hits: 1936

Y gerdd fuddugol yn nghystadleuaeth Gadair Cymdeithas Madog, Cwrs Cymraeg Bro Boston, 1989 gan Gwr Y Gogledd (John Otley)


Breuddwydio / Dreaming

Rôn i'n syllu yn flinedig ar y cysgodion
oedd yn dawnsio fel "ballerinas" llwyd
ar lwyfan fy nenfwd brwnt.
Roedd glesni anial yn goleuo'r stafell o'r stryd islaw,
yn hollti'r tywyllwch poeth llaith
oedd yn gafael ynof yn ei grafangau llym.
Ar y briffordd bell, roedd cerddorfa
o gyrn ceir yn canu galargân.
A dyma fi'n gorwedd ar fy ngwely,
heb gysgu, heb ddihuno.

Yno, mi wywodd y cyngerdd aflafar.
Dim gair, dim sibrwd, dim swn.
Y nos heb lais.
Roedd niwl oer gwlyb yn cropian drwy'r ffenest fel cath,
yn llenwi'r stafell fel dwr mewn potel.

Ac yn y tawelwch poenus, mi weles i fyd llwyd,
haearn a rhwd, dur a lludw, maen a baw,
ac adeiladau anhygoel oedd yn herio'r nefoedd.
Mi weles i law brown budr yn syrthio o gymylau fel llech.
A lle roedd y dwr yn llifo,
mi fyddai'r concrit yn toddi fel menyn.

Roedd pobl llwyd yn gwibio heibio
fel gloynnau byw di-liw ar frys gwyllt,
yn cerdded mewn preiddiau o le i le
Roedd eu hwynebau fel maen, yn galed ac yn oer,
heb angerdd, heb bwrpas.
Roedd pawb yn dilyn.
Doedd neb yn arwain.

Mi gerddon nhw heibio i'r gwely
yn ceisio osgoi llygaid yr eneth fach
oedd yn gwerthu glas y gors ger y wardrÙb.
Stopion nhw ddim i edrych ar y rhyfeddod blodeuog,
estron lliwgar yn y byd llwyd.
A phan basion nhw, mi droion nhw ei stondin drosodd
heb feddwl, heb ofal.
Mi adawon nhw'r eneth yn sefyll ar ei phen ei hen
ynghanol adfeilion ei bywyd,
dagrau hallt yn disgleirio fel rhuddemau
yn ngolau gwan yr haul coch.

Yna, mi glywes i swn rhyfedd, cras.
Roedd rhywun yn chwerthin yn walltgo
fel rhyw fath of ffwl.
Ac mi sylweddolies yn sydyn mai fi oedd y ffwl 'na.
Mi eisteddes i i fyny ar fy ngwely,
chwys oer yn llifo o'm hwyneb a'm cefn,
'nghalon yn curo fel tabwrdd bas.
Ond roedd yr heulwen felen groesawgar
yn estyn ei bysedd cynnes drwy'r ffenest,
a roedd robin goch yn dathlu'r dydd newydd
o goeden afalau gyfeillgar.
Mi gysures i fy hun wrth feddwl
mai dim on hunllef oedd hi.

On'd oedd hi?

Gwr Y Gogledd


Dreaming

I was tiredly staring at the shadows
that were dancing like grey ballerinas
on my dirty ceiling stage.
A desolate blueness lit the room from the street below,
splitting the warm damp darkness
that gripped me in its sharp claws.
On the distant highway, an orchestra
of car horns was playing a dirge.
And there I lay on my bed,
not sleeping, not waking.

Then the cachophonic concert faded.
No word, no whisper, no sound.
The night without voice.
A cold wet fog was creeping through the window like a cat,
filling the room like water in a bottle.

And in the painful silence, I saw a grey world,
iron and rust, steel and ash, stone and dirt,
and incredible buildings that were challenging the heavens.
I saw a dirty brown rain falling from clouds like slate.
And where the water ran,
concrete would melt like butter.

Grey people flitted past
like colourless butterflies at a mad dash,
walking in flocks from place to place.
Their faces were like stone, hard and cold,
without passion, without purpose.
Everyone was following.
No-one was leading.

They walked by the bed,
trying to avoid the eyes of the little girl
who was selling forget-me-nots by the wardrobe.
They didn't stop to look at the flowery wonder,
a colourful stranger in the grey world.
And when they passed, they turned her stand over
without thinking, without caring.
They left the girl standing by herself
in the ruins of her life,
salty tears glittering like rubies
in the weak light of the red sun.

Then I heard a strange harsh sound.
Someone was laughing madly
like some sort of fool.
And I suddenly realised that I was that fool.
I sat up in my bed,
cold sweat running from my face and back,
my heart beating like a bass drum.
But the yellow hospitable sunlight
was stretching its warm fingers through the window,
and a robin was celebrating the new day
from a friendly apple tree.
I consoled myself in the thought
that it was only a nightmare.

Wasn't it?

John Otley
Cyfieithiad gan / Translation by Alun Hughes

Chair 1990 - Gwreiddiau

Details
Written by: Graham Hughes
Category: Cymdeithas Madog Chair Competition
Published: 08 March 2011
Hits: 1929

Y darn fuddugol yn nghystadleuaeth Gadair Cymdeithas Madog, Cwrs Cymraeg Bro Ohio, 1990 gan Graham Hughes


Gwreiddiau

Ym mha le y ddylwn i chwilio am fy ngwreiddiau?

Ces i fy ngeni mewn tref ddiwydiannol yn Ne Cymru, lle r'oedd y Cymraeg yn edwino a bron yn diflannu pan oeddwn i'n blentyn. Aferai fy nhad siarad Gwenhwyseg, tafodiaith swynol y cymoedd, ond ni siaradai fy mam dim gair o'r iaith, er iddi ddod o deulu yn llwyr Cymreig, a' thad hi wedi sylfaenu capel Cymraeg yn y dref. (Calfaria, capel y Bedyddwy - rwy'n ei gofio yn finiog dros y blynyddoeth).

Ond, yn y trychineb ofnadwy a ddioddefodd yr iaith, yn y ganrif hon, magwyd fy mam gan fy nhadcu a'm mamgu yn uniaith Saesneg. Byddai'r Gymraeg, yn eu barn nhw, yn rwystredigaeth i lwyddiant yn y byd cyfoes. Efallai eu bod nhw'n iawn.

Wel, dyma fi yn esiampl o'u rhagweliad nhw. Mynd i brifysgol enwog yn Lloegr, mynd yn fargyfreithiwr yn Llundain, yn athro y gyfraith mewn prifysgol enwog yn America. Ysgrifennu llyfrau yn Saesneg; dadlau yn llysgoedd uchaf Lloegr ac American yn Saesneg. Dyna gamp! Llwyddiant ni ellid ei dyfalu gan fy nhadcu a'm mamgu. Llwyddiant dros ben!

Ond dyma beth od! Ar unwaith ar ôl i mi ymadael â Chymru, yn syth dechreuais i deimlo rhyw chwithdod yn y gwythiennau. Hiraethai fy ysbryd am yr hen ddyddiau gynt, a cheisio i neidio dros y cenhedlaethau i gysylltu â fy nghyndeidiau oedd yn byw heb dorri gair o Saesneg. Bu gorfod i mi gychwyn ar y daith hir a brwydro i grafangu yn ôl darn o'm hetifeddiaeth a aeth ar goll. Trwy'r flynyddoedd, yn boenus o araf, rwy wedi ail-gipio ynys fechan o'r filltir sgwar lle trigai'r Cymry.

Ond paham? Peth hawdd ydy colli iaith, ond pa mor hir a chaled yw'r llwybr i'w ail-ennill. Ond fyddai'n haws i gefnu ar yr hen wlad a'r hen iaith a chymodi a'r realiti cyfoes? Ar ôl gyrfa ar uchelgais yn anelu yn unig at lwyddiant ym myd eang y diwylliant Saesneg, "beth yw'r ots gennyf i am Gymru?"

Ond mae'r gwreiddiau yn gadarn, ond ydynt? Mae llawenydd a dagrau y profiad Cymreig trwy'r oesau yn dal i bwyso arnaf a fyddan nhw ddim yn fy ngadael i'n llonydd. D'ydi hyn ddim yn reswm i ofidio. Mae'r heniaith yn rhoi arial i'm calon ac, fel y dywed y bard:

"Nol blino treiglo pob tref
Teg edrych tuag adref."

Ie, wir, peth cadarn ydi gwreiddiau.

Graham Hughes


Roots

I was born in an industrial town in South Wales where the Welsh language was in a state of decay, on the verge of disappearing, even when I was a child. My father spoke Gwenhwysig, that charming dialect of the valleys, but my mother could not speak a word of the old language, even though she came from a completely Welsh family, and her father had founded a Welsh language chapel in the town. (It was a Baptist chapel, Calfaria, and I remember it so sharply after all these years).

But, in that terrible disaster that overwhelmed the language in this century, my grandparents brought up my mother to be monoglot English. They thought that Welsh would be an impediment to success in the modern world. Perhaps they were right.

I am certainly an example of their foresight. I went to a famous English university, became a barrister in London and a professor of law in a well known American university. I wrote books in English and argued in English in the highest courts in England and America. What a success story! Acheivements that my grandparents could not have dreamed of. Tremendous success!

But something peculiar happened. Once I had left Wales, suddenly I could feel a current of uneasiness in my veins. My spirit seemed to yearn for bygone days; it sought to leap over generations and link up with my ancestors who had lived without ever speaking a word of English. I felt compelled to set out on a long journey, to struggle to wrest back some piece of my lost inheritance. And over the years, in a painfully slow way, I have managed to retake possession of a small strip of that square mile where the Welsh once lived.

But why? It's so easy to lose a language and the path to regaining it is so long and hard. Wouldn't it be easier to turn one's back on the old country and the old language and come to terms with contemporary reality? When all my ambition and my carerr had been directed at success int he broad world of English culture, "what should Wales matter to me?"

But roots are so powerful, aren't they? The joy and the tears of the Welsh experience through the ages are always in my mind; they won't let me forget. But that's not something to regret. The old language thrills me, and, as the poet wrote:

"After wandering through so many lands,
It is sweet to look towards home."

Yes, roots are powerful things, indeed.

Graham Hughes
Cyfieithiad gan / Translation by Graham Hughes

Chair 1991 - Rhaeadrau

Details
Written by: John Otley
Category: Cymdeithas Madog Chair Competition
Published: 09 March 2011
Hits: 1833

Y gerdd fuddugol yn nghystadleuaeth Gadair Cymdeithas Madog, Cwrs Cymraeg Ar Lan Y Niagara, 1991 gan Dros Y Bont (John Otley)


Rhaeadrau

"Tipyn bach o farddoniaeth wael i bobl sy'n masnacheiddio rhyfeddodau"

Edrychwch, siopwr y Niagara,
ar y praidd sy'n heidio hebio,
eu camerâu'n clician, a'i pocedi'n tincian.
Mae 'na elw mewn prydferthwch.

Gwrandewch, hen was y siop,
ar swn dy register yn canu.
Mae atsain y clych arian yn codi dy galon.
Mae ysbryd y rhaeadrau ar werth.

Gwelwch, berchennog y siop,
ar y bobl sy'n llifo fel afon,
eu lleisiau'n boddi rhu'r rhaeadr.
Mae'n hawdd addoli ar allor arian.

Ond cofiwch, f'annwyl gyfaill,
drwy'r holl dwrw a'r dyrfa,
mewn enfys gain berffaith yng nghalon y bedol,
gellir gweld llaw Duw.

Dros Y Bont


Waterfalls

"A little bit of poor poetry for people who commercialize wonders"

Look, Niagara shopkeeper,
upon the herd that's swarming by,
their cameras clicking, their pockets tinkling,
There is profit in beauty.

Listen, old servant of the store,
to the noise of your register singing.
The echo of the money bells lifts your heart.
The spirit of the falls is for sale.

Notice, owner of the shop,
the people flowing like a river,
their voices drowning the roar of the fall.
It is easy to worship on the altar of money.

But remember, my dear friend,
through the whole tumult and noise,
in a perfect elegant rainbow at the heart of the horseshoe,
can be seen the hand of God.

John Otley
Cyfieithiad gan / Translation by Alun Hughes

Chair 1993 - Mae Breuddwyd 'Da Fi

Details
Written by: Wayne Harbert
Category: Cymdeithas Madog Chair Competition
Published: 09 March 2011
Hits: 1792

Y ddarn fuddugol yn nghystadleuaeth Gadair Cymdeithas Madog, Cwrs Cymraeg Ottawa A'r Cylch, 1993 gan Suran Y Coed (Wayne Harbert)


Mae Breuddwyd 'Da Fi

Mae breuddwyd 'da fi.
Pont rhwng nawr ac yfory ydy hi.
Mae'r hafn rhyngddyn yn llydan ac yn ddwfn.
Sut gallwn i groesi hebddi?

Des i â'm merch
I'r cymer hardd hwn o'r afonydd
I adeiladu ynghyd pont o freuddwyd
Drwy rannu pethau gyda'n gilydd
Yr oeddwn i wedi dod yn eu caru:
Hen iaith, ffrindiau newydd,
Hanes a hanesyn, cân a Chymreigrwydd.

A rydw i'n breuddwydio dros fy ngeneth
Y bydd digon o awch a heddwch ac amser
Iddi hithau fynd yn saer pontydd gwerthfawr
Rhwng yfory ac yn awr.

Suran Y Coed


I Have A Dream

I have a dream.
It is a bridge between now and tomorrow.
The space between them is wide and deep.
How could I cross without it?

My daughter and I came
To this fair convergence of rivers
To build together a bridge out of dream
By sharing things with each other
That I had come to love:
Old language, new friends,
history and story, song and Welshness.

And I have a dream for my little girl,
That there will be zest and peace and time enough
For her too to become a builder of bridges of great worth
Between tomorrow and today.

Wayne Harbert
Cyfieithiad gan / Translation by Wayne Harbert

Page 10 of 24

  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14

Main Menu

  • Home

Login Form

  • Forgot your password?
  • Forgot your username?