Readings In Welsh
- Details
- Written by: Marta Weingartner Diaz
- Category: Readings In Welsh
- Hits: 2066
Dyma stori fer am y detecif byd enwog Herciwl Pwaro. Cafodd y stori hon ei hysgrifennu yn enwedig i ddysgwyr gan Marta Weingartner Diaz. Mae Marta'n athrawes Gymraeg brofiadol ac mae hi wedi dysgu ar lawer o Gyrsiau Cymraeg Cymdeithas Madog dros y blynyddoedd.
Llofruddiaeth Yn Y Manordy
Wrth lwc roedd Hercule Poirot, y ditectif Belgaid enwog, yn aros yng Ngogledd Cymru pan ddigwyddodd y trasiedi yno. Onibai am hyn, basai'r dirgelwch hwn yn dal heb ei esbonio hyd heddiw.
Ond gadewch if fynd yn ol i'r dechrau...
Bu rhaid i Monsieur Poirot adael ei fflat yng nghanol Llundain pan benderfynodd awdurdodau y ddinas ail-balmantu ei stryd. Roedd sŵn y peiriannau dan ei ffenestri yn ofnadwy, a'r llwch yn dod i mewn ac yn setlo ym mhobman. Dyn twt a thaclus ydy M. Poirot, fel mae pawb yn gwybod, ac yn casáu anrhefn a sw+n a llwch yn anad dim. Yn dilyn cyngor ei ffrind Colonel Hastings, felly, aeth M. Poirot i Gymru, i dreulio pythefnos yn yr awyr iach, ymhell o sŵn a mwg y ddinas fawr. Cyn hir roedd Poirot ymysg y mynyddoedd Cymreig, yn aros mewn Gwely a Brecwast mewn pentref gwledig yng nghysgod yr Wyddfa.
Er ei fod yn ddyn dinesig o'i gorun i'w sawdl, llwyddodd M. Poirot i fwynhau ei drigiad yn y pentref. Y diwrnod cyntaf, aeth i mewn i'r siopau, ymweld â'r hen gapel, ac edmygu'r maenordy gwych o'r ddeunawfed ganrif; yn fyr, gwelodd Poirot y golygefeydd i gyd. A'r dyddiau dilynol, beth a wnaeth? Mynd am dro yn y mynyddoedd, cerdded allan yn y cefn gwlad, edrych ar y ffermwyr yn hel eu defaid gyda chymorth eu cwn defaid du a gwyn. Byddai Poirot yn mynd allan bob dydd gyda'i het a'i ymbarel i grwydro rhyw lwybr mynyddig, gan gymryd gofal i ddod adre mewn pryd i gael te, a bob tro yn sychu ei esgidiau'n ofalus, rhag ofn iddo fe fod wedi sefyll yn rhywbeth cas roedd rhyw ddafad wedi'i osod ar y llwybr.
Un prynhawn tua diwedd ei drigiad yn y pentref, tra roedd M. Poirot yn cael te a bisgedi yn y Gwely a Brecwast, rhuthrodd y bwtler o'r maenordy i mewn. Roedd e wedi rhedeg o ben draw'r pentref i ofyn i M. Poirot ddod i'r maenordy ar unwaith: roedd rhywun wedi cael ei ladd!
Cydiodd M. Poirot yn ei het a'i ymbarel a brysio allan o'r tŷ, yn dilyn y bwtler trwy'r pentref i'r maenordy, lle trigodd yr Arglwyddes Prydderch-Jones are ei phen ei hen (gyda'i bwtler a'i chogyddes, hynny yw). Ar y ffordd, adroddodd y bwtler y hanes i M. Poirot: bachgen deg oed, mab y gogyddes, oedd wedi cael ei ladd. Roedd y gogyddes wedi dod o hyd i'w mab yn gorwedd ar lawr y gegin, yn farw. Nid oedd hithau na'r bwtler wedi gweld neu glywed dim byd o'i le ar y pryd.
Pan gyrhaeddodd M. Poirot, roedd yr heddlu wedi dod a mynd yn barod, ar ôl chwilio am gliwiau a gofyn cwestiynnau o bob math, ond yn ofer - ymadawodd y plismyn heb ddod o hyd i'r un prawf i ddangos pwy oedd wedi llofruddio'r bachgen.
Dechreuodd M. Poirot holi'r gogyddes; beichiodd hithau wylo a gallodd o'r braidd siarad. "Pardon, Madame," meddai M. Poirot, "Rydw i'n deall bod hyn yn anodd iawn i chi, ond mae rhaid i fi ofyn ychydig o gwestiynau, ac mae'n angenrheidiol i chi ateb mor fanwl ‚ phosib. Yn gyntaf, Madame, ble roedd eich mab pan ddaethoch chi o hyd iddo fe?"
"Roedd e'n gorwedd ar y llawr, wrth y bwrdd, a chyllell yn ei gefn," egurodd y gogyddes, gan sychu ei dagrau.
"Mae'n debyg na welodd e ddim o'r llofrudd, felly," meddai M. Poirot. "Fasai fe wedi ei glywed, tybed?"
"O na fasai," atebodd y gogyddes yn bendant. "Dwi'n siwr na chlywodd e ddim byd? Roedd e'n bwyta cawl ar y pryd, ac yn llyncu'n swnllyd, fel arfer. Byddai fy meistres, yr Arglwyddes Prydderch-Jones, yn dweud y drefn wrth y bachgen truan o hyd ac o hyd am iddo wneud cymaint o sw+n wrth fwyta."
"Aha!" criodd Monsieur Poirot. "Rydw i wedi darganfod y llofrudd! Ffoniwch yr heddlu, a dywedwch iddyn nhw restio yr Arglwyddes Prydderch-Jones ar unwaith!"
Ar ôl i'r plismyn fynd â'r foneddiges ddiedifar i orsaf yr heddlu, cerddodd M. Poirot yn feddylgar yn ôl i'w Wely a Brecwast. "Gobeithio na chaiff yr Arglwyddes Prydderch-Jones ddyfarniad llym," meddyliodd Poirot. "Nid arni hi oedd y bai, wedi'r cwbl. Mae'n hollol warthus i rywun lyncu ei gawl yn swnllyd fel 'na o hyd ac o hyd. Dim rhyfedd i'r arglwyddes gracio dan y straen!"
Geirfa
- llofruddiaeth (masc.) - murder (also, llofruddio - to murder, and llofrudd, m - murderer)
- Maenordy (m) - manor house
- ymddiheuriad (m) - apology
- dirgelwch (m) - mystery
- dal heb ei esbonio - to remain unexplained
- awdurdod (m) - authority
- dinas (fem.) city (also, dinesig - urban)
- ail-balmantu - to re-pave
- peiriannau - machines (singular: peiriant, m)
- llwch (m) - dust
- ym mhobman - everywhere
- twt a thaclus - neat and tidy
- casáu - to hate (also, cas - nasty, hateful)
- anrhefn (f) - disorder (cf. trefn - order)
- yn anad dim - above all
- cyngor (m) - advice
- ymysg - among
- gwledig - rural (cf. gwlad - coutry; also cefn gwlad - countryside)
- cysgod (m) - shadow
- o'i gorun i'w sawdl - from head to foot
- llwyddo i - to succeed in
- mwynhau - to enjoy
- trigiad (m) - a stay (also, trigo - to stay)
- edmygu - to admire
- gwych - splendid
- deunawfed ganrif - 18th century
- golygfeydd - sights (sing. golygfa, f)
- hel - to herd
- cymorth (m) - help
- crwydro - to wander
- llwybr (m) - path
- mewn pryd - in time (also, ar y pryd - at the time)
- sychu - to dry
- rhag ofn - in case
- gosod - to drop or set
- rhuthro - to rush
- pen draw - the far end
- cael ei ladd - to be killed (cf. lladd - to kill)
- cydio yn - to grab
- yr Arglwyddes (f) - Lady
- cogyddes - cook
- adrodd - to recount
- marw - dead
- o'i le - wrong
- yr heddlu (m) - police (also, gorsaf yr heddlu - police station)
- pob math - every kind
- yn ofer - in vain
- ymadael - to leave
- yr un prawf - (not) a single proof
- holi - to interrogate
- beichio wylo - to sob
- o'r braidd - scarcely
- angenrheidiol - necessary
- mor fanwl â - as precisely as...
- tebyg - likely
- tybed - I wonder
- pendant - emphatic
- cawl (m) - soup
- llyncu - to swallow
- swnllyd - noisy (cf. sŵn, m - sound)
- fel arfer - as usual
- dweud y drefn - to scold
- truan - poor
- o hyd ac o hyd - again and again
- bonheddiges (f) - lady, noblewoman
- diedifar - unrepentant
- na chaiff - she will not get (from cael)
- dyfarniad (m) llym - harsh sentence
- bai (m) - blame
- wedi'r cwbl - after all
- gwarthus - disgraceful
- fel yna - like that
- dim rhyfedd - no wonder
- Details
- Written by: Marta Weingartner Diaz
- Category: Readings In Welsh
- Hits: 2091
Dyma stori enwog Hans Christian Anderson am y tywysoges a'r bysen. Cafodd y stori hon ei chyfieithu gan Marta Weingartner Diaz.
Y Dywysoges A'r Bysen
Roedd unwaith, yn yr hen ddyddiau, dywysog hardd; roedd e eisiau priodi tywysoges, ond roedd rhaid iddi fod yn dywysoges go iawn. Teithiodd y tywysog felly trwy'r byd i gyd, yn chwilio am dywysoges wir, ond heb lwc. Roedd digon o dywysogesau i'w cael yn y byd, wrth gwrs, ond ai tywysogesau go iawn oedden nhw? Doedd y tywysog ddim yn siwr; bob amser roedd rhywbeth o'i le arnyn nhw. Dychwelodd gartref, felly, ac roedd yn drist iawn; roedd e wedi gobeithio'n arw cael tywysoges go iawn.
Un noson roedd y tywydd yn ofnadwy; taranodd a melltennodd, daeth y glaw i lawr mewn bwcedi - yn fyr, roedd yn hollol ddychrynllyd. Yn sydyn cnociodd rhywun ar ddrws y castell, ac aeth yr hen frenin i'w agor.
Tywysoges oedd yn sefyll yno. Ond diawl, y golwg a oedd arni, gyda'r glaw a'r tywydd stormus! Llifodd y dwr i lawr o'i gwallt a'i dillad a'i esgidiau, ond dywedodd hi ei bod yn dywysoges wir.
"Wel, fe gawn ni weld am hynny!" meddyliodd yr hen frenhines, ond ddywedodd hi ddim byd. Aeth i'r ystafell wely, cododd y dillad gwely, dododd bysen ar y fatras, rhoddodd ddau ddeg matras ar y bysen, ac wedyn dau ddeg cwilt ar y matresi.
A threuliodd y dywysoges y nos yno.
Yn y bore gofynodd pawb oedd hi wedi cysgu'n dda.
"O, yn ddiflas dros ben!" atebodd y dywysoges, "chysgais i ddim winc trwy'r nos! Duw a wyr beth oedd yn y gwely yno! Mi orweddais i ar rywbeth caled, ac mae fy nghorff i gyd yn ddu ac yn las! Roedd yn ofnadwy!"
Gallodd pawb weld ei bod yn dywysoges go iawn, oherwydd ei bod wedi teimlo'r bysen trwy'r ddau ddeg matras a'r ddau ddeg cwilt: neb ond tywysoges wir allai fod mor groendenau.
Priododd y tywysog y dywysoges ar unwaith, achos nawr roedd e wedi dod o hyd i dywysoges go iawn, ac aeth y bysen i'r amgueddfa genedlaethol, ble mae hi o hyd i'w gweld, os dydy neb wedi ei dwyn.
A dyna stori go iawn!
Geirfa
- tywysoges - princess; tywysog - prince
- pysen - pea
- priodi - to marry
- go iawn - proper
- gwir - real
- chwilio - to search
- rhywbeth o'i le ar... - something wrong with...
- dychwelyd - to return
- yn arw - terribly (from garw)
- taranu - to thunder
- melltennu - to flash lightening
- yn fyr - in short
- yn hollol - entirely
- dychrynllyd - frightful
- golwg - sight
- llifo - to flow
- treulio - to spend
- Duw a wyr - God knows
- gorwedd - to lie
- teimlo - to feel
- croendenau - thin-skinned, sensitive
- dod o hyd i - to find
- yr amgueddfa genedlaethol - the national museum
- dwyn - to take, steal
- Details
- Written by: Cefin Campbell
- Category: Readings In Welsh
- Hits: 2018
Mae Cefin Campbell, athro Cymraeg brofiadol o Dde Cymru, wedi dysgu ar sawl Cwrs Cymraeg Cymdeithas Madog dros y blynyddoedd.
Pam Ydw I Yma: Why Indeed?
Y mae fy nghysylltiad cyntaf â Chymdeithas Madog yn mynd yn ôl i 1986 pan ces i wahoddiad i ddysgu ar Gwrs Gymraeg Y Bedol Aur yn Nhoronto. Dyna'r tro cyntaf erioed i mi ymweld â Gogledd America ac yr oedd yn brofiad bythgofiadwy.
Ers hynny yr wyf wedi bod yn ffodus o gael gwahoddiad i fynd yn ôl nifer o weithiau fel athro ac arweinydd cwrs. Y cyrsiau eraill yr wyf wedi bod yn dysgu arnynt yw'r rhai a gafodd eu cynnal yn Cincinnatti (1987), Boston (1988), Atlanta (1995), Indianola (1997) a Berkeley, San Francisco (1998).
Dros y blynyddoedd yr wyf wedi cael y pleser o gyfarfod â nifer o bobl ddiddorol iawn, llawer yr wyf yn parhau mewn cysylltiad â nhw heddiw. Drwy'r cyfeillgarwch hwn yr wyf wedi dod i adnabod Cymry America yn well - eu hanes ac yn arbennig eu hymdrechion i gynnal eu hunaniaeth fel pobl dros gyfnod o ganrifoedd.
Yr hyn sydd wedi bod o ddiddordeb arbennig i mi yw'r rhesymau pam y mae cannoedd o bobl o bob rhan o Ogledd America wedi mynychu cyrsiau Cymdeithas Madog yn rheolaidd dros y blynyddoedd diwerthaf. Y mae rhai o'r rhesymau yn ddigon amlwg - cysylltiad teuluol â Chymru neu'r awydd i astudio'r Gymraeg fel pwnc academaidd, ond mae rhesymau eraill eithaf 'bizarre' wedi codi o bryd i'w gilydd. Pwy fasai'n meddwl bod cadw corgi Cymreig yn rheswm dros ddysgu Cymraeg neu bod yn ffan o'r Dywysoges Diana neu Tom Jones? A beth am yr un ddaeth ar gwrs Cymraeg am eu bod yn gwerthu cwrw Felinfoel yn ei 'liquor store' lleol. Wel, ble gwell i ddod na chwrs Cymraeg i ddysgu mwy am gwrw Cymru?!
Unig rheswm un wraig o Bennsylvania am ddod ar gwrs oedd gallu dweud 'Llanfairpwyllgwyngyll etc' heb anadlu, ac un arall o Wisconsin eisiau dysgu Gweddi'r Arglwydd ar ei chof. Ac yna'r dyn yn Cincinatti a ddaeth yn arbennig i ofyn os oedd un o'r athrawon o Gymru yn adnabod ei Wncwl Wil Thomas oedd yn byw rhywle yn Ne Cymru!
Ond y stori orau oedd yr aelod o Greenpeace a oedd wedi gweld poster yn dweud 'Save Whales' a dod ar gwrs i achub Cymru!
Ond heblaw am eithriadau fel hyn y mae'r ymroddiad sydd yn cael ei ddangos gan bobl sydd yn dod ar gyrsiau Cymdeithas Madog wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi dros y blynyddoedd. Yr wyf yn aml wrth siarad â chymdeithasau neu fudiadau yng Nghymru yn cyfeirio at frwdfrydedd pobl Gogledd America am yr iaith, ei hanes a'i diwylliant, ac yn gobeithio rhyw ddydd y bydd y rhan fwyaf o bobl Cymru yn dangos yr un diddordeb mewn iaith a diwylliant.
Gobeithio y caf gyfle i gadw fy nghysylltiad â Chymdeithas Madog mewn rhyw ffordd neu'i gilydd dros y blynyddoedd nesa.
- Details
- Written by: Heini Gruffudd
- Category: Readings In Welsh
- Hits: 1971
Mae Heini Gruffudd wedi dysgu ar sawl Cwrs Cymraeg Cymdeithas Madog dros y blynyddoedd. Athro brofiadol yn Ne Cymru ac awdur sawl lyfr i ddysgwyr, mae o'n dysgu Cymraeg yn y coleg yn Abertawe. Ysgrifennod Heini'r ddarn o farddoniaeth ar ôl Cwrs Cymraeg Atlanta, 1995.
Yr Ymadawiad Mawr Yn Null America
Sut bydd y ffarwel ola?
A fydd munudyn seremoni?
Wedi oes o wres,
o fyw ar drydan nerfau,
a chyffro cyrff,
a geir un gusan laith
neu anwes glyd,
neu a gaf olwg ohonot o bellter clwyfus?
Ynteu a gerddi i'r lifft i'r seithfed llawr
heb wybod fod y foment fawr ar fod?
(Neu ai i'w osgoi,
i wylo dros ynfydrwydd byw;
neu ai'n ddifater ei?
Er poeni,
ni allaf boeni mwy).
Y pryd hwnnw,
os caf,
fe gaf i ganu'n iach i'r lleill,
rhai'n anwyliaid oes,
codi llaw ar hwn a'r llall,
ysgwyd llaw,
a choflaid.
Yna camaf tua'r limo gwyn,
a ddaeth i'm cludo o'r tir newydd hwn,
i'r hen, hen fyd,
i'r lle y tarddodd amser, celf a llen,
(a'r awch i ladd)
A'r pryd hwnnw,
fel diwedd breuddwyd braf,
fe ddoi i blith y lleill,
ac estyn llaw i mi i'w dal yn dyn
Un olwg olaf wedyn, codi llaw,
a dyna ni,
a minnau nawr,
yng nghlydwch soffa lledr du y limo hir,
yng nghwmni gyrrwr boldew mud,
a bar wrth law,
a teithwyr byd yn bwrw golwg syfdan,
yn cyrchu tua Hartsfield
i gael esgyn fry i'r nen.