Hen Madog
  1. You are here:  
  2. Home
  3. Dysgwyr - For Learners
  4. Cymdeithas Madog Chair Competition

Cymdeithas Madog Chair Competition

Chair 2002 - Y Paith

Details
Written by: Cheryl Mitchell
Category: Cymdeithas Madog Chair Competition
Published: 14 March 2011
Hits: 1979

Y ddarn fuddugol yn nghystadleuaeth Gadair Cymdeithas Madog, Cwrs Cymraeg Ar Y Paith, 2002 gan Canolbarthwr (Cheryl Mitchell)


Y Paith

Daeth Cymru a phobloedd eraill i'r paith yng Ngogledd a De America i sefydlu cymunedau i adeiladu ffermydd, ond mae'r gair paith yn dynodi dau beth gwahanol. Ond mae tebygrwydd hefyd.

Mae'r paith ym Mhatagonia yn sych ac yn wastad fel yr anialwch yng ngorllewin y Taleithiau. Does dim llawer o goed yn y Wladfa; dim ond ger Afon Camwy. Yng nghanolbarth Gogledd America, mae'r paith yn llai gwastad ac yn fwy cyfoethog. Mae mwy o laswellt, coed a bryniau oherwydd yr afonydd.

A dweud y gwir mae'r ddau fath o baith yn eithaf tebyg o ran tir, tywydd, pobl, a hanes. Yn y ddau fath o baith, gwelir awyr fawr, golygfeydd agored a digon o le, i symud trwyddo. Does dim llawer o bobl na thraffig ar y ffyrdd. Mae'r tir agored yn achosi, unigrwydd a chyfle i synfyfyrio.

Yn y ddau fath o baith mae gwyntoedd cryf sy'n chwythu'n feunyddiol. Weithiau mae stormydd enbyd. Yn yr haf mae hi'n boeth iawn ac yn y gaeaf mae hi'n oer iawn. Yn y gwanwyn a hydref mae'n eithaf braf.

Oherwydd y tir a'r tywydd mae rhaid i'r bobl weithio'n galed i dyfu cnydau a sefydlu ffermydd. Yn yr haf mae hi'n anodd cael digon o ddwr. Mae'n bosib i ffermwr fethu ac roedd rhaid i rai symud i ffwrdd. Ond mae anhawster yn magu cryfder a chymeriad personol ac yn dod â phobl at ei gilydd. Datblygodd cymunedau clos un y pentrefi. Mae pawb yn wynebu yr yn anawsterau. Mae'r bobl am gael cyfiawnder a chware teg hefyd.

Yn yr hanes fe ddatblygodd cymeriadau cryf fel Tomi Davies a John Daniel Evans yn y Wladfa a John Brown a John L. Lewis yng nghanolbarth y Taleithiau. Roedd rhaid i bobl ddod yn gryf, yn hyblyg a chreadigol i allu wneud yr anialwch yn ffrwythlon. I gloi, dyw'r bobl ddim yn gyfoethog o ran arian, ond maen nhw'n gyfoethog yn fewnol.

Canolbarthwr


The Prairies / The Pampas

The Welsh and other peoples came to the prairie in North and South America to establish communities to build farms, but the word "paith" denotes two different things. But there are also similarities.

The "paith" ("pampas") in Patagonia is dry and flat as a desert in the Western States. There isn't a lot of wood in Yr Wladfa; only near the Camwy River. In mid North America, the "paith" ("prairie") is less flat and richer. There are more grass, trees and hills because of the rivers.

To tell the truth, the two types of "paith" are quite similar as to land, weather, people and history. In both types of "paith", great sky, open scenes are seen with plenty of room to move through. There isn't a lot of people or traffic on the roads. The open land causes loneliness and an opportunity to muse.

In both types of "paith" there are strong winds that blow daily. Sometimes there are huge storms. In the summer, it's very hot and in the winter, it's very cold. In the spring and autumn, it's quite nice.

Because of the land and the weather, people must work hard to grow crops and establish farms. In the summer, it's difficult to get enough water. It's possible for a farmer to fail and some had to move away. But the difficulty developed strength and personal character and brought people together. Close communities developed in the villages. Everyone faced the difficulties. The people wanted to have justice and fair play too.

In history there developed strong characters like Tomi Davies and John Daviel Evans in the Wladfa and John Brown and John L. Lewis in the Central States. People had to become strong, flexible and creative to be able to make the desert fruitful. To close, the people aren't rich as to money, but they are rich inside.

Cheryl Mitchell
Cyfieithiad gan / Translation by John Otley

Chair 2004 - Chwedl Ddau Gymydog

Details
Written by: Sarah Stevenson
Category: Cymdeithas Madog Chair Competition
Published: 14 March 2011
Hits: 1920

Y ddarn fuddugol yn nghystadleuaeth Gadair Cymdeithas Madog, Cwrs Cymraeg Y Ddeilen Goch, 2004 gan Delyth (Sarah Stevenson)


Chwedl Ddau Gymydog

Amser maith yn ôl, cyn clociau a chyn cenhedloedd, roedd y wlad yn lân, a'r nefoedd yn llawn heulwen drwy'r dydd a golau'r sêr gyda'r nos. Crwydrodd anifeiliaid heb ofn bodau dynol. Dyna adeg pan gafodd Morwyn-y-Llyn a Crwt-y-Coed eu geni.

Wrth i Grwt-y-Coed adeiladu tai tegan o ffyn a phren ar lannau'r llyn, roedd Morwyn-y-Llyn yn chwarae dan y dyfroedd dyfnion, yn adeiladu cestyll tywod oedd yn codi eu tyrau i'r heulwen uwchben.

Daeth tro ar fyd. Adeiladodd Crwt-y-Coed dy nad oedd yn degan, ty digon mawr i ddau. Ond dim ond fe oedd yn byw rhwng ei furiau, yn cael ei swper ar ei ben ei hunan bob nos, yn meddwl am ei goedwig annwyl a weithiau am y Forwyn dlos oedd yn byw dan y dŵr.

Nid fe oedd yr unig un i sylwi ar y Forwyn. Un dydd, dechreuodd ymwelwyr cyrraedd lan y llyn, dynion o bedwar ban byd. Ond doedd dim diddordeb gyda Morwyn-y-Llyn ynddyn nhw. Cyn bo hir fe adawon nhw'r tir fel yn y dyddiau cynnar—yn ddistaw ar wahân i'r anifeiliad a'r gwynt.

Bob bore, roedd Crwt-y-Coed yn arfer gweiddi ar Forwyn-y-Llyn gyfarchiad llawen, a bob bore, dywedodd Morwyn-y-Llyn "Bore braf ydy e, yntefe?" wrth iddi hi nofio mewn cylchau araf o gwmpas y llyn. Fe welodd y bachgen bob tro fod y ferch yn brydferth fel y blodau. Ond roedd y Crwt yn swil, a dim ond "bore da" a "noswaith da" ddywedodd e bob dydd.

Un bore daeth dyn tal i weld Morwyn-y-Llyn. Fe aeth e bob dydd i'r llyn a gofyn i'r ferch, "Wnei di fy mhriodi?" Bob tro dywedodd hi ddim byd wrtho. Ar ôl wythnos, gwylltiodd y dyn, a dechreuodd e weiddi a rhegi - nid dyn caredig iawn oedd e. Roedd ofn ar Forwyn-y-Llyn. Pan welodd Crwt-y-Coed hynny, gwylltiodd e hefyd ar ran y Forwyn, a rhedodd e fel cath ar dân i lannau'r llyn.

Gwelodd y dyn tal y bachgen crac 'ma yn rhedeg tuag ato, gyda ffyn yn ei wallt a dail ar ei ddillad, yn edrych fel rhywun o tu hwnt i'r byd cyffredin, a rhedodd y dyn tal. Ond daeth e o hyd i goedwig yn llawn mieri a changhennau, ac wrth iddo fe ffoi roedd y Crwt a'r Forwyn yn gallu ei glywed yn rhegi eto ac yn melltithio'r coed.

Yn ffodus, doedd dim diddordeb gyda'r Crwt na'r Forwyn mewn melltithion di-rym dyn fel ‘na. Gwenodd y ddau ar ei gilydd, roedd y goedwig a'r llyn yn ddistaw ac yn heddychol unwaith eto. Doedd yr un ohonyn nhw wedi dweud dim byd eto. O'r diwedd, torrwyd y tawelwch gan Crwt-y-Coed.

"Bore da," dywedodd e wrth Forwyn-y-Llyn.

"Bore braf ydy e, yntefe?" atebodd hi. A chydiodd hi ym mraich Crwt-y-Coed am y tro cyntaf.

Y Diwedd ... neu'r Dechrau

Delyth


The Story of Two Neighbours

A long time ago, before clocks and before countries, the land was pure, and the skies full of sunshine throughout the day and starlight at night. Animals wandered without fear of human beings. That was the time when the Lake Maiden and the Forest Boy were born.

While the Forest Boy built toy houses of sticks and wood on the shores of the lake, the Lake Maiden played beneath the deep waters, building sand castles that raised their towers to the sunlight overhead.

Things changed. The Forest Boy built a house that wasn't a toy, a house big enough for two. But only he lived between its walls, having dinner on his own each night, thinking about his beloved forest and sometimes about the lovely Maiden who lived under the water.

He wasn't the only one to notice the Maiden. One day, visitors began to arrive at the banks of the lake, men from the four corners of the world. But the Lake Maiden had no interest in them. Before long, they left the land as in those early days - silent, apart from the animals and the wind.

Every morning, the Forest Boy used to shout a cheerful greeting to the Lake Maiden, and every morning, the Lake Maiden said "It's a fine morning, isn't it?" as she swam in slow circles around the lake. The lad saw, each time, that the girl was as lovely as the flowers. But the Boy was shy, and he said only "good morning" and "good evening" each day.

One morning, a tall man came to see the Lake Maiden. He went to the lake every day and asked the girl, "Will you marry me?" Each time, she said nothing to him. After a week, the man was enraged, and he began to shout and swear - he was not a kind man. The Lake Maiden was frightened. When the Forest Boy saw this, he too was enraged, on behalf of the Maiden, and he ran like the wind (lit. "like a cat on fire") to the lakeshore.

The tall man saw that angry lad running towards him, with sticks in his hair and leaves in his clothing, looking like someone from out of this world, and the tall man ran. But he found the forest full of briars and branches, and as he fled, the Boy and the Maiden could hear him swearing still and cursing the trees.

Fortunately, neither the Boy nor the Maiden had any interest in the powerless curses of a man like that. The two smiled at each other, the forest and the lake quiet and peaceful once again. Neither one had said anything yet. Finally, the silence was broken by the Forest Boy.

"Good morning," he said to the Lake Maiden.

"It's a fine morning, isn't it?" she answered. And she took the arm of the Forest Boy for the first time.

The End ... or The Beginning

Sarah Stevenson
Cyfieithiad gan / Translation by Sarah Stevenson

Chair 2005 - Synfyrfyrdodau Nain

Details
Written by: Rebecca Redmile
Category: Cymdeithas Madog Chair Competition
Published: 15 March 2011
Hits: 1820

Y traethawd buddugol yn nghystadleuaeth Gadair Cymdeithas Madog, Cwrs Cymraeg yr Afon Fawr, Rio Grande, 2005 gan Rebecca Redmile


Synfyrfyrdodau Nain

Wrth eistedd yn effro ar dy bwys di'n breuddwydio, ti, faban, gu-wyres anwylaf dy nain, na pheidiaf bendroni pa olwg y bydd ar y byd i'th genhedlaeth i gario ymlaen? Na welai'th ddychymyg ond gwlad ein gwasgariad, y tirlun di-staen fel addewid ein Duw, y gwenith i'w fedi a'r nefoedd dibendraw a geidw'n calonnau'n ddiolchgar am fyw. Trwy ffenestr y caban, 'deiladwyd, fy maban, gan lafur a chwys ael 'r ymfudwyr i gyd, gweledig mae glannau gwyrdd 'r afon a'n cludai, a'n noddi, cymuned o ledled y byd. Mae'r lleuad yn t'wynnu a golau'n melynu symudliw ar ddyfroedd Ohio draw 'cw, yn llif ddiarwybod drwy feysydd i'w tyddio a gwneuthur Sir Gallia'n doreithiog a gwiw. Fe red ei nant arian drwy'r t'wyllwch ac weithian, fe aeth heibio hen fferm John Tomos fan 'na, Cyffesaf, fy Lisa, fy ngobaith ydyw i ti briodi yn d'amser, yn ffawd wrth ei fab. Yr eiddo i'n diwydiant ni ffynnant yr ardal, mae ynte'n gyfrifol am lwyddiant y lle, Mae'r ffermwyr a gweithiwyr o Gymru yn cael eu hadnabod yn weithwyr caletaf y dre'. Ond gwaed yr hen wlad sydd yn llenwi'n gwythiennau, a cherddi'r hen wlad a dyrr dant yn ein bron, i ti y cyfrifir a phlant dy genhedlaeth, i gadw'n ddilychwin 'r etifeddiaeth hon. Buaswn i'n adrodd tra cysgi heb warth am gychwyn cuddiedig y Cymry di-dir, gan bwyll ymgartrefu, a mwythder gwydd dofi, y wlad hon odidog drwy dymhorau hir. Dw i'n cofio ers talwm pan laniodd ein cychod ar hyd yr Ohio mewn gwynt oer a glaw, Braf iawn oedd i'n gweled ni hebddynt hwy drannoeth, a chefngwlad go debyg i Bowys gerllaw. Fy mreuddwyd, 'ngholomen, i ti yn arbennig, mai merched deallus gall lwyddo yn fawr, Ti'n ddel a reit glyfar i fynd yn go bell, wel, falle i'r coleg, mewn gwlad newydd nawr. Mi gei di dy fagu, delfrydau i'th ddysgu gwynfydau a erys i'r rhai galon bur, mae Nebo a Thyn Rhos yn sefyll fel lampau i dywys dy draed di rhag maglau o ddur. O, cadwed ti'n ddibaid ym mynwes cyd-frodyr, yn saff rhag peryglon rhyfelwyr rhyfedd, a llyfner dy ffordd drwy'r anialdir presennol, a'th lanio'n fuddugol yn harbwr ein hedd.

Chair 2006 - Hunaniaeth Genedlaethol a'r Llwybr Canol

Details
Written by: Janis Cortese
Category: Cymdeithas Madog Chair Competition
Published: 15 March 2011
Hits: 1778

Y gerdd fuddugol yn nghystadleuaeth Gadair Cymdeithas Madog, Cwrs Cymraeg y Cwm Canol, Stockton, CA, 2006 gan Helygen Haearn (Janis Cortese)


Hunaniaeth Genedlaethol a'r Llwybr Canol

Dw i'n byw mewn gwlad chwildroadol, a mae hwn yn dylanwadu'n hunaniaeth ni mewn moddai amrywiol ac anrhagweladwy. Mae fy ngwlad yn ei disgrifio ei hunan yn ideolegol yn flaenaf. Mae ei henw hi, hyd yn oed, yn ein disgrifio fel llwyodraeth: Yr Unol Daleithiau. Mae'n llwyodraeth ni'n diffinio'n hunaniaeth. Yn ôl Americanwyr, mae'n byd ni - mae'n hanes ni - yn cychwyn ym 1776 yn ogystal â ni. Cyn y Rhyfel Chwildroadol, doedd dim "hunaniaeth Americanaidd." Roedd dim ond 13 gwlad wahanol, 13 cenedl, 13 hunaniaeth. Pan wnaeth ein llywodraeth ni gychwyn, wnaethon ni gychwyn. Y peth gorau am yr hunaniaeth Americanaidd ydy bod hi'n croesawu unrhywun. Er mwyn bod Americanwr, mae rhaid i chi gredu dim ond bod y llywodraeth Americanaidd yn gweithio. Dim mwy na ffydd cenedlaethol. Medrai unrhywun ymuno.

Mae'n gywir bod ein hunaniaeth lywodraethol ni'n croesawu, ond falle dydy hi ddim yn parhau. Does gan y llywodraethau democrataidd ddim llawer o hirhoedledd. Aeth dim ond tri chan mlynedd rhwng y weriniaeth Rhufeinig a genedigaeth yr Ymerodraeth sydd wedi ymgorffor'r wlad Frythoneg. Mae gan lywodraethau democrataidd fywydau byrion. A mae gwledydd eraill yn y byd yn gwybod hyn.

Mae'r "hen fyd" wedi gweld sawl llywodraeth yn dod a mynd. Brenhinoedd, tywysogion, gwrthryfelwyr a chwildrowyr, dros yr oesoedd, drwy hanes. Dim ond yn y byd newydd medrai pobol eu diffinio eu hunain drwy eu llywodraeth. Dim ond yn y byd newydd - byd ifanc - medrai pobol gredu bod llywodraethau'n parhau. A mae democratiaethau wedi bod yn hynod o ddiflanedig drwy hanes y byd. Yn yr hen fyd, mae pobol sy'n eu diffinio eu hunain yn sgîl eu llywodraeth yn bobol sy mewn peryg o ddiflannu pan mae eu gwlad nhw'n diflannu.

Achos bod llywodraethau'n dod a mynd, mae rhai gwledydd yn eu diffinio eu hunain drwy eu pobol, eu hil. Os ydych chi'n poeni am sefydlogrwydd, dewisiad rhesymol ydy o. Yn ôl y dewisiad yma, cenedl ydy teulu yn hanfodol - sefydlog a pharhaol. Ond mae problem gyda'r modd yma o greu hunaniaeth: mae'n anodd iawn anturio i mewn, os ydych chi'n dod o fan - o deulu - arall. Mae'r hunaniaeth hiliol yn sefydlog, ond dydy hi ddim yn croesawu pobol newydd yn hawdd. (Hefyd, os ydy'r cenedl yn diflannu, mae'r diflaniad mor barhaol ag oedd y genedl yn sefydlog yn wreiddiol.)

Wnes i feddwl am hyn i gyd pan wnes i weld rheolau'r cystadlaethau yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd, pan wnes i ymweld â Chymru er mwyn mynd i'r Eisteddfod yn Eryri a'r Cyffiniau.

Yn y rheolau, wnes i ddarganfod diffiniaid amrywiol o Gymro: Cymro: Unrhyw berson a aned yng Nghymru neu y ganed yn o'i rieni yng Nghymru, neu unrhyw berson a fu'n byw yng Nghymru am dair blynedd yn union cyn yr ŵyl, neu unrhyw berson sy'n siarad neu'n ysgrifennu Cymraeg.

Nid llywodraeth na hil ydy cenedl. Iaith ydy cenedl.

Llywodraeth? Mae'r Cymry wedi gweld brenhinoedd, tywysogion, milwyr Rhufeinig, ac arglwyddi'r Mers. Mae arweinyddion yn dod a mynd fel y tywydd - heulog, neu gymylog, neu fwrw glaw neu eira. Yr unig peth ydych chi'n gwybod yn bendant ydy nad ydy'r arweinyddion yn aros am gyfnod hir. Mae'r Cymry gwybod yn well na defnyddio eu llywodraeth nhw ar gyfer creu hunaniaeth.

Yn lle hil na llywodraeth, maen nhw'n defnyddio'r iaith, iaith felys a chwerw, fel llond cog o ruddemau, llond ceg o win coch tywyll. Iaith y maen nhw eisiau dysgu i'r holl fyd. Mae'r hunaniaeth yma yn croesawu pobol eraill yn hawdd, gyda chân a llaw agored (a thipyn o gwrw!).

Dydy llywodraethau ddim yn parhau. Dydy hil ddim yn croesawu. Mae'r iaith yn gwneud y ddau.

Mae'r iaith yn parhau yn hirach o lawer na'r arlywyddion a'r brenhinoedd. Mae'r iaith yn croesawu unrhywun sy'n ceisio'n galed ei dysgu, unrhywun sy'n buddsoddi'r ymdrech.

Falle, iaith ydy sylfaen yr hunaniaeth orau. Mae hi'n cymysgu'r rhannu gorau o sefydlogrwydd a chroeso. Rhwng y ddau, mae hunaniaeth iaith - hunaniaeth Cymraeg - yn cerdded y llwybr canol.

Helygen Haearn


National Identity and The Middle Path

I live in a revolutionary country, and this influences our self-identity in both varied and unpredictable ways. My country describes itself primarily by ideology. Even our name describes our government: The United States. Our government defines our identity. According to Americans, our world -- our history -- begins in 1776 in addition to us. Before the Revolutionary war, there was no "American identity." There were only 13 separate countries, 13 nations, 13 identities. When our government began, we began. The best thing about the American self-identity is that it welcomes anyone. In order to be American, you need believe only that the American government works. It's no more than national faith. Anyone can join.

It's true that governmental identity welcomes, but perhaps it doesn't endure. Democratic governments aren't possessed of a great deal of longevity. Only 300 years passed between the Roman Republic and the birth of the Empire that swallowed the Brythonic nation. Democratic governments have short lives. And other nations know this.

The old world has seen many governments come and go. Kings, princes, rebels and revolutionaries, over the ages, throughout history. Only in the new world could people define themselves via their government. Only in the new world -- a young world -- could people believe that governments endure. And democracies have been particularly evanescent throughout world history. In the old world, a people who define themselves on the basis of their government are a people in danger of vanishing when their government vanishes.

Because governments come and go, some nations define themselves via their people, their race. If you're concerned about stability, it's a reasonable choice. According to this choice, a nation is essentially a family, established and enduring. However, there's a problem with this method of creating self-identity: it's very difficult to venture inside if you come from another place -- another family. Racial identity is stable, but it doesn't welcome new people easily. (And, if the nation disappears, the disappearance is as enduring as the nation originally was stable.)

I thought about all this when I saw the rules for competitions in the Eisteddfod last year, when I visited Wales in order to go to the Eisteddfod in Eryri and its surroundings.

In the rules, I found various definitions of "Welsh": any person born in Wales or whose parents were born in Wales, any person who has lived in Wales for three years prior to the Eisteddfod, or any person who speaks or writes Welsh.

Nation equals neither government nor race. Nation equals language.

Government? The Welsh have seen kings, princes, Roman soldiers, and Marcher lords. Leaders come and go like the weather -- sunny, cloudy, raining or snowing. The only thing you know clearly is that leaders aren't around for the long term. The Welsh know better than to use their government to create self-identity.

In place of race or government, they use language, a sweet, bitter language, like a mouthful of rubies, a mouthful of dark, red wine. A language that they want to teach to the whole world. This self-identity welcomes other people easily, with a song and an open hand (and a little bit of beer!).

Governments don't endure. Race does not welcome. Language does both.

Language lasts longer by far than presidents and kings. Language welcomes anyone who tries hard to study it, anyone who invests the effort.

Maybe, language is the best foundation for self-identity. It mixes the best parts of stability and welcome. Between the two, linguistic self-identity -- Welsh identity -- walks a middle path.

Janis Cortese
Cyfieithiad gan / Translation by Janis Cortese

Page 4 of 5

  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5

Main Menu

  • Home

Login Form

  • Forgot your password?
  • Forgot your username?